Rhif y ddeiseb:  P-06-1426

 

Teitl y ddeiseb:  Dylid gosod goleuadau traffig wrth gylchfan McDonald’s ym Mhont-y-pŵl

 

Geiriad y ddeiseb:  Bu nifer o ddamweiniau eisoes wrth y cylchfan hwn (A472/A4042). Gyda’r cynnydd mewn traffig i’r siop Aldi newydd, bydd yn fater o amser cyn y bydd marwolaethau.

 


1.        Y cefndir

Llywodraeth Cymru yw'r awdurdod priffyrdd ar gyfer y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru, gan gynnwys yr A4042. Asiant Cefnffyrdd De Cymru sy’n gyfrifol am weithredu a chynnal a chadw’r ffordd o ddydd i ddydd.

Mae CrashMapUKsy’n llunio map rhyngweithiol o ddata gwrthdrawiadau traffig a gofnodwyd gan yr heddlu, yn dangos 20 mân-ddigwyddiad a 3 digwyddiad difrifol ar y gylchfan dan sylw neu wrth ddynesu ati rhwng 2018 a 2022. Mae canllawiau ar y diffiniadau a ddefnyddir i gategoreiddio digwyddiadau’n cael eu cyhoeddi gan yr Adran Drafnidiaeth. Dylid nodi bod y data ond yn cynnwys gwrthdrawiadau a arweiniodd at anaf personol ac a gafodd eu hadrodd i’r heddlu o fewn 30 diwrnod i’r ddamwain.

Mae’r gylchfan y cyfeiriodd y deisebydd ati wedi’i chynnwys yn y cynnig gan gynllun arfaethedig Lywodraeth Cymru, A4042 Coridor y De, Pont-y-pŵl i’r M4

Cynllun A4042 Coridor y De, Pont-y-pŵl i’r M4

Nid yw’r wybodaeth sydd ar gael am y cynllun yn cyfeirio’n benodol at osod goleuadau traffig ar y gylchfan hon. Mae adroddiad y panel adolygu ffyrdd ar y cynllun (a drafodir ymhellach isod) yn dweud bod y prif elfennau’n cynnwys adeiladu llwybr beicio 2.5km, addasiadau i bum cylchfan (heb gynnwys yr un y cyfeiriodd y deisebydd ati) ynghyd â “mesurau teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus ar raddfa fach”. Byddai terfyn cyflymder 50mya dros dro hefyd yn cael ei wneud yn barhaol wrth ddynesu at gylchfannau.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod gan y rhan hon o’r ffordd gyfradd gwrthdrawiadau uchel, cyfleoedd cyfyngedig i gerdded neu feicio’n ddiogel a darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus gyfyngedig. Mae'r cynllun wedi’i gynnwys yn y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth.

Mae asesiad WelTAG (Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) Cam Un ar y cynllun wedi’i gwblhau, yn ogystal ag asesiad cam dau interim. Mae bellach yn destun yr asesiad cam dau olaf yn sgil adolygiad ffyrdd Llywodraeth Cymru.

Yr adolygiad ffyrdd

Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd Lee Waters AS, y cyn-Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, y byddai panel adolygu ffyrdd yn cael ei sefydlu i adolygu buddsoddiadau ffyrdd arfaethedig Llywodraeth Cymru. Cyhoeddodd y cyn-Ddirprwy Weinidog y byddai pob cynllun ffordd newydd yn cael ei atal pan oedd y cynlluniau presennol yn cael eu hadolygu.

Cyhoeddodd y panel ei adroddiad terfynol ym mis Chwefror 2023. Wrth ymateb, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad polisi ffyrdd newydd sy'n gosod pedwar prawf adeiladu ffyrdd.

Ar Gynllun A4042 Coridor y De, canfu’r panel fod yr achos dros newid “wedi’i gyflwyno’n rhannol” ac argymhellodd y gallai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi’r cynllun ond y dylid ei adolygu yn unol â'r polisi newydd. Ar y gylchfan benodol dan sylw, mae dadansoddiad o ddata gwrthdrawiadau sydd wedi’i gynnwys yn adroddiad y panel “yn awgrymu y gallai problem fod gyda gwrthdrawiadau” yma.

Fel yr amlinellwyd, mae Llywodraeth Cymru ynllunio adroddiad WelTAG cam 2 terfynol ar y cynllun i gysoni’r prosiect â’i phrofion adeiladu ffyrdd yn y dyfodol. Mae’n dweud y bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi yng “[n]gwanwyn 2024”.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Mewn llythyr at y Cadeirydd ar 26 Ebrill, mae Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, yn amlinellu gwelliannau a wnaed eisoes ar y gylchfan dan sylw, gan gynnwys croesfan i gerddwyr a’r terfyn cyflymder 50mya.

Mae’n cyfeirio at gynnwys y cynllun yn y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth ac mae'n dweud y “bydd y cynllun yn cael ei ystyried ochr yn ochr â chynlluniau eraill tebyg ledled Cymru a bydd yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael”.

3.     Camau gan Senedd Cymru

Yn 2019 cyflwynodd Lynne Neagle AS gwestiwn ysgrifenedig ar nifer y damweiniau ar y gylchfan y cyfeiriodd y deisebydd ati. Cyfeiriodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd at yr asesiad WelTAG cam un a gynhaliwyd.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.